DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 

 


TEITL

 

Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

DYDDIAD

14 Gorffennaf 2021

GAN

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog



Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal adolygiad o’r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos.  Heddiw rydym wedi cwblhau’r adolygiad diweddaraf a oedd i fod i gael ei gynnal erbyn 15 Gorffennaf.  

 

Mae achosion coronafeirws yn cynyddu yn y gymuned, yn bennaf o ganlyniad i’r amrywiolyn Delta. Fodd bynnag, mae ein cyfraddau brechu uchel yn golygu bod nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn parhau’n isel ac y gallwn gwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd un. Mae hyn yn golygu o 17 Gorffennaf:

 

·         Caiff hyd at chwech o bobl gwrdd o dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau.

 

·         Caniateir cynnal digwyddiadau dan do wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 1,000 o bobl yn eistedd neu 200 o bobl yn sefyll, ar ôl cynnal asesiad risg.

 

·         Caiff canolfannau sglefrio ailagor.

 

O’r dyddiad hwn gallwn hefyd ddileu’r cyfyngiadau ar y nifer o bobl a gaiff ymgynnull yn yr awyr agored. Caiff safleoedd a digwyddiadau awyr agored hefyd fwy o hyblygrwydd o ran y gofyniad i gadw pellter cymdeithasol. Bydd hwn yn un o’r camau lliniaru i’w hystyried, ond ni fydd yn ofyniad absoliwt.

 

Mae’r newidiadau eraill o 17 Gorffennaf yn cynnwys:

 

·         Caniatáu i hyd at 30 o blant o sefydliadau, fel y Brownis a’r Sgowtiaid, i fynd i ganolfannau preswyl dros wyliau’r haf.

 

·         Ei gwneud yn ofynnol i rannu’r risgiau a’r mesurau lliniaru a nodwyd yn yr asesiad risg COVID gyda chydweithwyr.

 

·         Dileu’r cyfyngiadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i bobl fod yn eistedd i yfed a bwyta mewn digwyddiadau yn unig.

 

Heddiw rydym hefyd yn cyhoeddi Cynllun Rheoli’r Coronafeirws diwygiedig sy’n amlinellu sut y byddwn yn symud y tu hwnt i lefel rhybudd un i set o gyfyngiadau sylfaenol.

 

Byddwn yn ystyried a yw’n bosibl i Gymru symud i lefel rhybudd sero newydd ar 7 Awst yn dilyn yr adolygiad nesaf o’r cyfyngiadau. 

 

Ar lefel rhybudd sero:

 

•     Bydd y cyfyngiadau cyfreithiol ar y nifer o bobl a gaiff gwrdd o dan do, gan gynnwys mewn cartrefi preifat, mannau cyhoeddus neu mewn digwyddiadau yn cael eu dileu.

 

•     Bydd asesiadau risg COVID yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol.

 

•     Bydd mesurau rhesymol yn ofynnol yn gyfreithiol i reoli’r risg o ganlyniad i coronafeirws ond bydd rhaid i bob sefydliad benderfynu ar y rhain yn seiliedig ar ganlyniad eu hasesiad risg, gan gynnwys mewn perthynas â chadw pellter cymdeithasol. 

 

•     Caiff pob busnes a phob safle agor, gan gynnwys clybiau nos.

 

•     Dylai pobl barhau i weithio gartref os yw’n bosibl.

 

•     Bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol o dan do, ac eithrio mewn lleoliadau lletygarwch. Rydym yn disgwyl y byddwn yn llacio’r gofynion hyn yn raddol – gan ddechrau gyda lleoliadau lletygarwch o 7 Awst. Bydd ysgolion a cholegau’n defnyddio’r fframwaith a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg i benderfynu ar y defnydd o orchuddion wyneb

 

 

Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: Lefel Rhybudd 0 (Gorfennaf 2021):

 https://llyw.cymru/cynllun-rheolir-coronafeirws-lefel-rhybudd-0-sero

 

Coronavirus Control Plan: Alert Level 0 (July 2021):

https://gov.wales/coronavirus-control-plan-alert-level-0-zero